Pwy wrendy gŵyn fy enaid gwan?
Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?

(Cydymdeimlad Crist)
Pwy wrendy gŵyn
    fy enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
  Pwy ddwg fy maich
      fel Brenin ne'?
  Pwy gydymdeimla fel Efe?

O! dyma un, dywedwch p'le
Y gwelir arall fel Efe,
  A bery'n ffyddlon imi o hyd
  Ym mhob rhyw drallod yn y byd?

Fy enaid, cân oherwydd hyn,
A chofia am Galfaria fryn;
  A than ei gysgod gwna dy nyth,
  Mae yno ddiogelwch byth.
O! dyma un :: Wel dyma un
              - - - - -

Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
  Pwy garia 'maich
      fel Brenin ne'?
  Pwy gydymdeimla fel efe?

'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod imi mwy; 
  Ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
  I'm dwyn o'r byd
      i'r nefoedd wen.

Pa'm cara i'r byd,
    a'i wagedd mwy?
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
  Gwell genyf garu'r
      Ffrind a ddaw,
  Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Heilige Seelenlust 1657)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Eden (The Sacred Harp 1841)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Winchester (B Crasselius 1650-90)

gwelir:
  Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd?
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
  Nid oes un gwrthddrych yn y byd
  Ni carai'r byd na'i wagedd mwy
  Pa'm carai'r byd na'i wagedd mwy?
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'

(The Sympathy of Christ)
Who will hear the complaint
    of my weak soul?
Who will lift me up from all my griefs?
  Who will bear my burden
      like the King of heaven?
  Who will sympathise like He?

O here is one! Tell ye where
Is to be seen another like He,
  Who will continue faithful to me always
  In every kind of trouble in the world?

My soul, sing because of this,
And remember Calvary hill;
  And under its shadow make thy nest,
  There is safety there forever.
O here is one :: See here is one
                - - - - -

Who will hear the groans of my weak soul?
Who will raise up all my fears?
  Who will carry my burden
      like the King of heaven?
  Who will sympathise like he?

I am choosing Jesus and his mortal wound
As Brother and Spouse to me evermore;
  He as Leader, he as Head,
  To take me from the world
      to bright heaven.

Why shall I love the world,
    and its emptiness any more?
As far as death they scarcely shall come;
  I would rather love the
      Friend who is coming,
  In death to take hold of me by my hand.
tr. 2016,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~